Image for Thomas Charles o'r Bala

Thomas Charles o'r Bala

Morgan, D. Densil(Edited by)
See all formats and editions

Dyma gyfrol gyfansawdd sy'n trafod cyfraniad Thomas Charles o'r Bala (1755-1814) i fywyd Cymru ar achlysur daucanmlwyddiant ei farw.

Yn ffrwyth yr ymchwil ddiweddaraf gan ddeuddeg arbenigwr yn y maes, mae'n rhychwantu'r holl feysydd bu Charles yn ymwneud a nhw: addysg, crefydd, llythrennedd, ysgolheictod, geiriaduraeth a diwylliant.

Sonnir hefyd am waddol artistig Thomas Charles, y cysylltiad a fu rhyngddo a'r emynyddes Ann Griffiths ac a Mari Jones a gerddodd i'r Bala i gyrchu Beibl ganddo, ei berthynas a chyfoeswyr fel Thomas Jones o Ddinbych, a'i le yn natblygiadau gwleidyddol ei gyfnod.

Un o benseiri'r Gymru fodern oedd Thomas Charles ac ef, yn ol Derec Llwyd Morgan, oedd 'Tad i foneddigeiddrwydd y werin Gristionogol Gymraeg'.

Dyma gyfrol a fydd wrth fodd calon haneswyr diwylliant a beirniaid llen, a'r gwaith manylaf ar Thomas Charles i'w gyhoeddi ers canrif a mwy.

Read More
Special order line: only available to educational & business accounts. Sign In
£8.75
Product Details
University of Wales Press
1783162244 / 9781783162246
eBook (EPUB)
15/07/2014
Welsh
167 pages
Copy: 20%; print: 20%