Image for Dramau'r Rhosys Cochion

Dramau'r Rhosys Cochion

See all formats and editions

Yn ol ysgolheigion ffeministaidd mae tystiolaeth bendant ynglyn a'r ffordd y mae cyfraniad menywod i ddrama, theatr a pherfformiad yn aml iawn yn cael ei hepgor, ei 'ysgrifennu allan', ei osod ar yr ymylon yn ddiwylliannol a'i wneud yn anweledig.

Ac mae'n ffaith nad oes fawr o astudiaeth o hanes y theatr yng Nghymru sydd naill ai'n cydnabod neu'n cynrychioli gwaith ysgrifennu menywod ar gyfer y theatr Gymraeg.

Yn y cyd-destun hwn, mae'r gyfrol hon sydd yn ddilyniant i gyfrol arloesol Theatr Y Gymraes yn trafod gwaith Sera Moore Williams yn ymdrech i lenwi'r bylchau a chyfoethogi'r hanes trwy ddogfennu tair drama ysgrifenwyd a perfformiwyd gan Sharon Morgan i Rhosys Cochion.

Yn anorfod ac yn anad dim mae'r testunau a'r cyddestun a roddir iddynt yn cyfeirio at y profiad diwylliannol o fod yn fenyw ac yn Gymraes, at hunaniaeth a'r estheteg fenywaidd sydd yn cydnabod y corff benywaidd fel gwraidd creadigrwydd.

Read More
Special order line: only available to educational & business accounts. Sign In
£3.99
Product Details
Honno Press
1912905507 / 9781912905508
eBook (EPUB)
26/10/2023
1 pages
Copy: 20%; print: 20%