Image for Beth Sy'n Digwydd Yn Fy Mhen?

Beth Sy'n Digwydd Yn Fy Mhen?

See all formats and editions

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod meddwl iach yn bwysig dros ben, ond sut mae gwneud yn siwEr ein bod ni'n gofalu am ein hiechyd meddwl o oedran ifanc iawn?

Mae Beth Sy'n Digwydd Yn Fy Mhen? yn llyfr i blant sy'n edrych ar ffyrdd ymarferol o gadw ein meddwl, yn ogystal a'n corff, mewn cyflwr da.Drwy drafod hunanddelwedd gadarnhaol, deallusrwydd emosiynol, perthnasoedd a meddylgarwch, mae'r llyfr yn annog plant i ddatblygu arferion iach a dulliau i'w helpu i ymdopi o'r dechrau'n deg.

Bydd yn helpu i sefydlu sylfeini cadarn ar gyfer lles pob plentyn, nawr ac yn y dyfodol, a hynny mewn ffordd gyfeillgar, ddi-lol ac addas i blant.

Mae Beth Sy'n Digwydd Yn Fy Mhen? yn ffordd ddelfrydol o daro sgwrs a phlant am eu lles meddyliol ac emosiynol ac yn hanfodol I unrhyw riant sy'n deall pwysigrwydd cynnal meddwl iach.

Read More
Special order line: only available to educational & business accounts. Sign In
£4.99
Product Details
Graffeg Limited
1913733793 / 9781913733797
eBook (EPUB)
01/07/2021
English
32 pages
Copy: 10%; print: 10%