Image for Griffith Davies: Arloeswr a Chymwynaswr

Griffith Davies: Arloeswr a Chymwynaswr (1st edition)

Part of the Scientists of Wales series
See all formats and editions

Dyma gyfrol sy'n croniclo bywyd a gwaith Griffith Davies (1788-1855), o'i blentyndod tlawd yn ardal chwareli Arfon i'w waith fel sefydlydd ysgolion mathemateg yn Llundain cyn gosod sylfaen i'r proffesiwn actiwari. Tri mis yn unig o addysg ffurfiol a dderbyniodd Davies, a dyna pryd y sylweddolwyd fod ganddo allu rhyfeddol mewn mathemateg. Mentrodd i Lundain, ac ar ôl blynyddoedd wedi ymroi i hunan ddysgu cyhoeddodd lyfrau mewn mathemateg, ac yn y pen draw fe'i penodwyd yn brif actiwari i gwmni yswiriant y Guardian yn y ddinas. Wrth i'w yrfa ddatblygu, daeth yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a derbyniodd glod ac anrhydeddau am ei waith. Bu'n weithgar ym mywyd Cymraeg Llundain gan sefydlu cyfres o ddarlithoedd gwyddonol yn ei famiaith, ac ymgyrchodd yn llwyddiannus dros hawliau tyddynwyr bro ei febyd a thros addysg i'w gyd-wladwyr. Mae hanes bywyd Griffith Davies yn stori sy'n ysbrydoli.

Read More
Special order line: only available to educational & business accounts. Sign In
£21.24
Product Details
Gwasg Prifysgol Cymru
1837720339 / 9781837720330
eBook (EPUB)
15/04/2023
Welsh
232 pages
Copy: 20%; print: 20%