Image for Y daith ydi adra, stori gwr ar y ffin

Y daith ydi adra, stori gwr ar y ffin

See all formats and editions

Cawn ei hanes o'i blentyndod yn Bermo i'r cyfnod cythryblus pan oedd yn fyfyriwr israddedig yn Aberystwyth, o ysgoloriaeth a'i galluogodd i fynd i Berkeley yn San Francisco ar yr adeg pan oedd AIDS yn lledaenu ar ras, cyn dychwelyd i Lerpwl ac i ogledd Cymru i weithio fel caplan ac yna ym maes gwaith cymdeithasol ac iechyd rhyw. Mae'n daith a'i harweiniodd i fod yn awdur a ddefnyddiodd ei brofiadau i greu ffuglen a enillodd wobrau, ac a'i hysgogodd i ddod yn ymgyrchydd, anfoddog braidd, dros hawliau LGBT yng Nghymru. Cawn glywed am yr antur o gadw Gwely a Brecwast yn Bermo, gyda'i wr, academydd Almaenig, eu priodas ar ôl partneriaeth hir, a'i gyfnod fel Maer Bermo.Ddyddiau'n unig ar ôl y Refferendwm ar Ewrop penderfynodd y ddau werthu'r busnes a symud i'r Almaen. Mae taith John Sam yn parhau.

Ar ôl mwy na deng mlynedd ar hugain o fod yn gweinidogaethu fel caplan, yn gweithio ym myd addysg a gweithio ym maes iechyd cyhoeddus mae John Sam Jones bellach wedi lled-ymddeol ac yn byw gyda'i wr a'u dau gi defaid Cymreig mewn pentref bach yn yr Almaen, dafliad carreg o'r ffin â'r Iseldiroedd. Sylweddolodd John ei fod yn hoyw pan oedd yn ei arddegau yn y 1970au a dod i ddeall yn fuan y byddai'n byw ei fywyd ar y ffiniau - y ffin rhwng gwir a chelwydd, y ffin rhwng cael ei wrthod a chael ei watwar, y ffin rhwng amau'i hun a'i daith i gael ei dderbyn. Yn y diwedd dewisodd gerdded llwybr lle nad oedd ei onestrwydd a'i ddiffuantrwydd bob tro'n cael ei werthfawrogi gan gymdeithas a oedd yn aml yn chwyrn o homophobig. Yn 2001 ef oedd cyd-gadeirydd cyntaf LGB Forum Cymru (a ddaeth yn ddiweddarach yn Stonewall Cymru), corff a sefydlwyd i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion LGB.

Read More
Available
£8.99
Add Line Customisation
Available on VLeBooks
Add to List
Product Details
Parthian Books
1913640809 / 9781913640804
eBook (EPUB)
15/05/2021
Welsh
212 pages
Copy: 20%; print: 20%
Translated from the English Description based on CIP data; resource not viewed.