Image for Darllen y Dychymyg : Creu ystyron newydd i blant a phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

Darllen y Dychymyg : Creu ystyron newydd i blant a phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

Part of the Y meddwl a'r dychymyg Cymreig series
See all formats and editions

Erbyn hyn, mae llyfrau i blant ymhlith gwerthwyr gorau'r diwydiant cyhoeddi ac yn rhan ganolog o addysg pob plentyn yng Nghymru.

Ond prin yw'r sylw beirniadol a gafodd hanes a datblygiad llenyddiaeth plant yn y Gymraeg.

Mae'r gyfrol hon yn mynd i'r afael a'r tawelwch hwnnw ynghylch llenyddiaeth plant yn ein hanes cenedlaethol, gan ddadlau dros ei harwyddocad cymdeithasol a diwylliannol.

Drwy fanylu ar ddechreuadau llyfrau a chylchgronau i blant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dengys y gyfrol hon fod llenyddiaeth plant yn hanfodol bwysig er mwyn deall sut mae syniadau ac agweddau'n cael eu trosglwyddo a'u trawsffurfio.

Ymdrinnir yn bennaf ag agweddau tuag at blant a phlentyndod, gan olrhain y modd yr esblygodd y cysyniadau hynny o dan bwysau trawsnewidiadau economaidd a diwyllianol yr oes.

Yng ngoleuni cysyniadau beirniadol Pierre Bourdieu a Michel de Certeau, archwilir y ffactorau oedd cyflyru awduron i ysgrifennu ar gyfer plant yn y lle cyntaf, a'r hyn oedd yn siapio eu hagweddau tuag at eu darllenwyr ifainc.

Drwy wneud hynny, mae'r astudiaeth hon yn gosod carreg sylfaen ar gyfer astudio llenyddiaeth plant yn y Gymraeg a'i pherthynas a'i hamgylchfyd hanesyddol a diwylliannol.

Read More
Available
£16.99 Save 15.00%
RRP £19.99
Add Line Customisation
2 in stock Need More ?
Add to List
Product Details
University of Wales Press
1786836505 / 9781786836502
Paperback / softback
15/12/2020
United Kingdom
336 pages, Yes
138 x 216 mm
Professional & Vocational Learn More