Image for Pe gallwn, mi luniwn lythyr: Golwg ar waith Menna Elfyn

Pe gallwn, mi luniwn lythyr: Golwg ar waith Menna Elfyn

Part of the Y meddwl a'r dychymyg Cymreig series
See all formats and editions

Cyfrol o feirniadaeth lenyddol arbrofol yw hon sy'n cynnig deongliadau amrywiol o waith y bard Menna Elfyn, ac yn rhoi cip inni ar ein hymwneud a llenyddiaeth a'n harferion darllen.

Eir ati i gynnig dehongliad ffres o'r gwaith gan arbrofi am y tro cyntaf yn y Gymraeg a dull beirniadaeth epistolaidd, sef cyfres o lythyrau ffuglennol.

Dyma hefyd yr astudiaeth estynedig gyntaf o farddoniaeth Menna Elfyn: rhoddir sylw i waith y bardd yn benodol, ond edrychir hefyd ar faterion cyfoes fel cyfieithu, perfformio a marchnata llenyddiaeth yn y Gymru sydd ohoni.

Eir ati i herio arferion academaidd trwy droedio'r ffin rhwng 'ffaith' a 'ffuglen' er mwyn creu beirniadaeth aml-leisiol a darllenadwy sy'n adlewyrchu natur gymhleth ac amlweddog y broses ddarllen.

Read More
Special order line: only available to educational & business accounts. Sign In
£9.99
Product Details
University of Wales Press
1783165839 / 9781783165834
eBook (EPUB)
15/10/2013
Welsh
197 pages
Copy: 20%; print: 20%