Image for Cyfaill pwy o'r Hen Wlad?: Gwasg gyfnodol Gymraeg America 1838-1866

Cyfaill pwy o'r Hen Wlad?: Gwasg gyfnodol Gymraeg America 1838-1866

See all formats and editions

Dyma gyfrol sy'n ymdrin a hanes Cymry America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trwy lygaid y wasg gyfnodol Gymraeg.

Cynrychiolai'r cyfnod rhwng 1838 ac 1866 ei hoes aur, ond ychydig iawn o ymchwil sydd wedi darlunio hynt a helynt yr ymfudwyr o Gymru trwy ddefnyddio cyfnodolion fel ffynonellau cynradd.

Fel cyfrwng cyfathrebu allweddol yn yr oes honno, rhoddent lwyfan i'r Cymry drafod pynciau'r dydd yn eu mamiaith.

Prin bod unrhyw un yng Nghymru heb ryw gysylltiad teuluol ag America, neu'n adnabod rhywun sydd wedi ymfudo, ac yn yr un modd mae gan ddisgynyddion y Cymry yn America ddiddordeb yn eu hetifeddiaeth - mae bwrlwm y cymdeithasau Cymreig yn ffynnu o hyd ar draws y cyfandir, a dathliadau Gwyl Ddewi a chymanfaoedd mor fyw ag erioed.

Eto i gyd, ychydig iawn a wyddant fod gwasg Gymraeg fywiog ar un adeg yn gwasanaethu'r Cymry yn eu gwlad fabwysiedig.

Read More
Special order line: only available to educational & business accounts. Sign In
£12.50
Product Details
University of Wales Press
1786830604 / 9781786830609
eBook (EPUB)
15/03/2017
Welsh
215 pages
Copy: 20%; print: 20%
Derived record based on unviewed print version record.